Ni thâl im' gyfadde' meiau

(Maddeuant Pechod)
Ni thâl im' gyfadde' meiau,
  Ond o flaen gorseddfainc ne';
Duw maddeugar, Tad tosturiol,
  Duw anfeidrol yw efe;
    At ei orsedd, &c.,
  Deuaf dan fy mhoenus blâ.

Ti faddeuaist fil o feiau
  I'r pechadur gwaetha'i ryw;
Arglwydd, maddeu'n awr i minau;
  Ar faddeuant 'rwyf yn byw;
    Dy drugaredd, &c.,
  Yw ngorfoledd a fy ngrym.

Cûdd fy meiau rhag y werin,
  Cûdd hwy rhag cyfiawnder ne';
Cofia'r gwaed unwaith dywalltwyd
  Ar y croesbren yn fy lle;
    Yn y dyfnder, &c.,
  Bodda'n awr fy meiau oll.
William Williams 1717-91

Tôn [878747]: Ardudwy (John Roberts 1822-77)

gwelir: Cudd fy meiau rhag y werin

(The Forgiveness of Sins)
It will not pay me to confess my sins,
  But before the throne of heaven;
Forgiving God, merciful Father,
  Infinite God is he;
    To his throne, etc.,
  I shall come, under my painful plague.

Thou forgavest a thousand faults
  To the sinners of the worst kind;
Lord, forgive me now;
  For forgiveness I am living;
    Thy mercy, etc.,
  Is my rejoicing and my strength.

Hide my faults from the people,
  Hide them from heaven's righteousness;
Remember the blood once poured out
  On the wooden tree in my place;
    In the depth, etc.,
  Drown now all my faults.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~